Cymhorthdal i Brosiect Bus Stop
Medi 2008

 

 

 

Mae prosiect Bus Stop, sef gwasanaeth gwybodaeth symudol i bobl ifanc yn Sir Conwy, sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd, wedi derbyn cymhorthdal o £84,000 tros y 3 blynedd nesaf gan y Gronfa Datblygu Gwledig. Dywedodd Mair Edwards, Uwch Swyddog Datblygu Cymunedol y Gymdeithas

“Mae hyn yn newyddion rhagorol. Chwe mis yn ôl roeddem yn ansicr o ddyfodol y prosiect, ond nawr fe allwn edrych ymlaen i’r dyfodol a gweithio law yn llaw â phobl ifanc Conwy i ddatblygu’r gwasanaeth ymhellach. Bydd yr arian yn gwella’r ddarpariaeth yng Nghonwy wledig, gan sicrhau mwy o ymweliadau cyson â’r bobl ifanc hynny sydd yn wledig arunig."