CYNRYCHIOLYDD TENANTIAID NEWYDD AR Y BWRDD RHEOLI
Gorffennaf 18 2008
Tro tenantiaid Siroedd Conwy Fflint a Wrecsam oedd hi eleni i ethol cynrychiolydd ar y Bwrdd Rheoli. Gan fod y sedd wedi bod yn wag ers 3 blynedd, roedd hi’n braf iawn gweld bod 2 denant wedi rhoi eu henwau ymlaen i sefyll etholiad. Llongyfarchiadau i Mr David James Logan o Rowen ar gael ei ethol, ac edrychwn ymlaen at ei gyfraniad i waith y Bwrdd.
Llongyfarchwyd Mr Logan yn swyddogol yn ystod ein Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd eleni ym Mhlas Isaf, Corwen ar y 16eg o Orffennaf. Mwynhaodd oddeutu 70 o g yfranddalwyr, tenantiaid, staff a phartneriaid eraill anerchiad ein siaradwr gwadd, sef y Cyngh. Aled Roberts, Llefarydd Tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.