Joyce yn cael ei gwobrwyo am ei gwaith
Fe gafodd Joyce Spencer ei gwobrwyo yn ddiweddar gyda gwobr “Llwyddiant Rhagorol mewn Cyfranogiad Ruth Radley” gan TPAS Cymru am ei gwaith gyda phobl ifanc yn Sir Conwy.
Mae Joyce wedi bod yn cyd-weithio hefo Gweithiwr Allanol Ieuenctid Digartref Tai Clwyd yn Sir Conwy, Angela Watt, wrth gyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth am ddigartrefedd i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ar draws y Sir.
Mae Joyce wedi bod yn ddigartref mwy nag unwaith dros y blynyddoedd ac roedd yn teimlo y gallai ddefnyddio ei phrofiadau mewn modd positif i geisio amlygu'r materion sydd yn effeithio ar bobl ifanc a’u gallu i gynnal tenantiaeth. Mynychodd gwrs hyfforddiant anffurfiol 15 wythnos i ddatblygu ei sgiliau a’i hyder, a nawr mae myfyrwyr yn derbyn budd o’i phrofiad. Mae hi wedi derbyn adborth bositif gan y myfyrwyr, gyda sylwadau megis “Roedd hi’n dda cael dysgu am ddigartrefedd gan rywun sydd wedi ei brofi”
Yn ychwanegol i’w gwaith gydag ysgolion, mae Joyce hefyd wedi bod yn flaenllaw wrth sefydlu nifer o brosiectau eraill, gan gynnwys datblygu grŵp cinio ar gyfer pobl ifanc digartref sydd yn eu hannog i ymwneud â materion tai/digartrefedd, a dylunio taflen wybodaeth i’w adael mewn ysgolion a mannau eraill lle mae pobl ifanc yn cyfarfod, fel eu bod yn gwybod hefo pwy y dylent gysylltu os ydynt hwy neu rywun maent yn ei adnabod, mewn peryg o fod yn ddigartref.
Yn ogystal â gwobr TPAS, ac i gydnabod holl waith caled Joyce, sydd yn gyfanswm o dros 200 awr o waith gwirfoddol i Gymdeithas Tai Clwyd, fe gyflwynwyd tystysgrif Gwirfoddolwyr y Mileniwm i Joyce gan David Taylor, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy.
Dymuna Cymdeithas Tai Clwyd ei llongyfarch ar ei llwyddiant, a diolch iddi am ei gwaith caled gyda phobl ifanc Sir Conwy.