Tan y Sgubor

 

Yn ddiweddar, mae plant a phobl ifanc o Tan y Sgubor wedi cwblhau murlun ar gyfer yr ystâd. Cynhaliwyd gweithdy yn ystod mis Mai gydag artist lleol, Sara Jane Harper, i ddylunio’r murlun, ac yn ystod wythnos olaf gwyliau’r haf, gwahoddwyd y plant a’r bobl ifanc i gynorthwyo Sara Jane i beintio’r murlun.