TRIP TRAP
Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn falch iawn o fod yn un o’r partneriaid sy’n ymwneud â’r grŵp Cymunedau yn erbyn Camddefnyddio Sylweddau.
Prif nod y grŵp yw cynorthwyo i leihau’r niwed i unigolion a chymunedau ym Meirionnydd wrth atal camddefnyddio sylweddau trwy addysg. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r grŵp wedi bod yn cydweithio’n agos gydag ysgolion o fewn Meirionydd i drefnu digwyddiadau atal cyffuriau.
Ar Hydref 23 a 24 2008 cafodd holl ddisgyblion blwyddyn 6 ysgolion cynradd Meirionnydd wahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r enw “Trip Trap Iau”. Roedd y digwyddiad y cyntaf o’i fath yn yr ardal, ac roedd yr ymateb mor bositif, fel y bu’n rhaid cynnal y digwyddiad dros ddau ddiwrnod er mwyn sicrhau lle i bawb – mynychodd cyfanswm o 300 o ddisgyblion!!
Roedd y diwrnod yn cynnwys nifer o weithdai yn cael eu harwain gan lawer o sefydliadau, yn cynnwys; Gwasanaeth Cyfiawnder Pobl Ifanc, y Tîm Camddefnyddio Sylweddau a’r Frigâd Dân. Cynhaliwyd sesiwn theatr ryngweithiol yn y prynhawn ac fe fwynhaodd y plant yn fawr. Fel grŵp, ein bwriad oedd cynnal diwrnod y byddai’r plant yn ei fwynhau, ond a fyddai’n cael effaith difrifol a hir dymor. Roedd y ffurflenni gwerthuso yn bositif iawn, a dyma rai o’r sylwadau:
“Roedd o’n hwyl ac yn ddiddorol iawn. Buaswn i’n hoffi mynd eto rhywbryd”
“Mae'r diwrnod wedi dysgu llawer mwy i mi na unrhyw wers alcohol arall erioed”
“Roedd y diwrnod yn cŵl iawn ac yn hwyl”
“Roedd y sesiynau i gyd yn dysgu gwahanol bethau i mi.”