Llongyfarchiadau mawr i Fred Breakell (ail o'r dde), Swyddog Datblygu Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Clwyd, sydd wedi ennill 'Tystysgrif Gwasanaeth Cymunedol yr Uchel Siryf mewn cydnabyddiaeth o wasanaeth rhagorol a chanmoladwy a roddwyd i gymunedau Gwynedd'. Mae Fred wedi ennill y wobr yma am ei gwaith yn cydweithio ar brosiectau datblygu cymunedol sydd yn canolbwyntio ar atal troseddu.