Yn galw ar arddwyr balch…



Os ydych chi’n falch o’ch gardd, beth am roi cynnig ar ein cystadlaethau garddio!! Dyna wnaeth Mr & Mrs Evans o Langollen y llynedd ac er mawr syndod iddyn nhw, fe ddaethant yn gydradd gyntaf.

“Rydym mor falch ein bod wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, dim ond tipyn o hwyl oedd o, a doeddem ni ddim yn disgwyl ennill - ond roedd hi’n braf derbyn cydnabyddiaeth am ein gwaith caled. Mae’r gystadleuaeth yn annog tenantiaid i gymryd gofal o’u gerddi ac i roi eu stamp eu hunain arnynt. Roeddem ni yn denantiaid newydd, a cyn symud i’r eiddo yma doedd gennym ni ddim gardd, sydd yn golygu ein bod yn gwerthfawrogi popeth amdano nawr, yn enwedig y bywyd gwyllt y mae’n ei ddenu a hefyd y ffaith ei fod yn ein cadw’n iach a heini. Byddwn yn sicr yn cystadlu eto eleni.”

Yn dilyn ymateb Karen Bowen i’r adran “Eich Barn” yng nghylchlythyr Cadwyn, rydym yn lansio cystadleuaeth newydd - “Gardd Basgedi a Photiau”. Mae’r gystadleuaeth hon wedi ei anelu at denantiaid sy’n byw mewn eiddo heb erddi preifat, ond yn gallu addurno y tu allan i’w cartrefi gyda basgedi crog neu botiau, yn barod erbyn yr haf.

Os hoffech chi gystadlu yn y gystadleuaeth “Gardd Breifat” neu’r “Gardd Basgedi a Photiau” y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â’r Tîm Datblygu Cymunedol erbyn Dydd Gwener 15fed o Fai 2009 dros y ffôn neu drwy’r post, gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad a pha gystadleuaeth y byddwch yn cystadlu ynddi.

Y gwobrau ar gyfer y ddwy gystadleuaeth eleni fydd:

1af = £100

2il = £50

3ydd = £25