Cystadleuaeth Enwi Mascot CTC

Llongyfarchiadau i Sophie o Ddolgellau sydd wedi ennill y “Gystadleuaeth Dylunio Mascot CTC” o rifyn Ebrill 2008 o Cadwyn. Ers derbyn cais Sophie rydym wedi cysylltu hefo dylunwyr ac rydym yn aros am gynllun gorffenedig cyn symud ymlaen i gynhyrchu’r wisg – mae’n debyg y byddwch yn gweld y wisg dros yr haf!
Bydd Sophie yn derbyn gwobr gwerth £100 am ei hymdrech.
Rydym nawr yn lansio cystadleuaeth i enwi’r mascot, edrychwch ar y llun a meddyliwch am enw iddo.
Os gallwch feddwl am enw, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol erbyn diwedd mis Mai.
Bydd cyfle i chi gyfarfod ein mascot ar y wibdaith yng Ngwynedd a Phowys eleni.
I rai dan 16 oed yn unig.
![]()
|
|