TENANTIAID YN ARWAIN Y FFORDD!
Cafodd Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol Cymdeithas Tai Clwyd ei gymeradwyo gan ein Bwrdd Rheoli ym mis Rhagfyr ac fe’i lansiwyd yn ystod cyfarfod o’n Gweithgor ym mis Chwefror. Mae’r strategaeth, a ddatblygwyd gan y Gweithgor sy’n cynnwys tenantiaid, staff ac aelodau’r Bwrdd, yn ffrwyth llafur mwy na 12 mis o waith ac er ein bod wedi cydymffurfio hefo canllawiau cenedlaethol wrth ei ddatblygu, rydym wedi rhoi ffocws i werthoedd Cymdeithas Tai Clwyd sydd, gobeithio, yn amlwg yn y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu. Byddwn yn canolbwyntio yn y dyfodol agos ar brif ffrydio cyfranogiad tenantiaid trwy holl waith y Gymdeithas ac rydym eisoes wedi penodi Hyrwyddwr Cyfranogiad Tenantiaid ar y Bwrdd Rheoli ac ym mhob adran o fewn y Gymdeithas. Bydd hyn yn sicrhau fod ein gweithgareddau cyfranogiad yn cael ei integreiddio o fewn ein holl swyddogaethau landlord a bod y strategaeth yn cael y sylw priodol er mwyn gwireddu ei nod a’i amcanion.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi pdf.