CHWILIO AM ENW NEWYDD I’R GRŴP!

Cynhaliwyd Diwrnod Ymgynghori Tai Clwyd 50 ar ddechrau mis Rhagfyr yng Ngwesty’r Hand, Llangollen, gyda 26 aelod o’r gr ŵ p yn bresennol.

Cafwyd nifer o weithdai a chyflwyniadau ar nifer o bynciau yn cynnwys:

  • Adolygiad o’r Clwb Tai Clwyd 50
  • Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Safonau Gwasanaeth
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r holl wybodaeth a gasglwyd ar y diwrnod yn cael ei werthfawrogi ac fe fydd y sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl pan fyddwn yn edrych ar y polisïau perthnasol ayyb.

Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar ail-enwi’r clwb gan fod gennym ni bellach dros 50 o aelodau, ac rydym wedi sylweddoli fod yr enw wedi creu peth dryswch gan fod pobl o dan yr argraff mai clwb ar gyfer pobl dros 50 oed ydyw . Derbyniwyd 3 awgrym ar gyfer enw newydd i’r clwb:

  • Llais y Bobl
  • Y Grŵp Aur
  • Fforwm Tenantiaid Tai Clwyd

Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill, byddem yn falch iawn o glywed gennych ac fe fydd pob cynnig yn mynd i bleidlais ym mis Mai. Fe fyddwn hefyd yn edrych ar gyflwyno cynllun cymhelliant ar gyfer y gr ŵ p, mwy o fanylion am hyn i ddilyn.

Yn dilyn bore prysur o waith, cafodd y gr ŵ p gyfle i fwynhau cinio Nadolig traddodiadol.

Llongyfarchiadau i Ms Hart o Ddolgellau ar ennill y wobr flynyddol o £50.

Dywedodd Annie Jones, sydd hefyd yn gynrychiolydd tenantiaid ar y Bwrdd:

“Roedd yn ddiwrnod gwerth chweil, fel tenantiaid rydym yn gwybod fod Tai Clwyd yn cymryd ein barn i ystyriaeth, ac mae hynny’n bwysig iawn i ni. Rwy’n gobeithio y byddwch yn parhau i drefnu’r digwyddiad yma bob blwyddyn.”

Os hoffech ddod yn aelod o’r Clwb Tai Clwyd 50, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol am fwy o wybodaeth.