MAIR YN DERBYN GWOBR TPAS


Enillodd Mair Edwards, y brif wobr yng nghategori Gwobr Gweithiwr Ysbrydoledig , a daeth y Gymdeithas, sydd wedi ei lleoli yn Ninbych, i’r brig gyda’i Diwrnod Tenantiaid 2009 gan gipio Gwobr Val Feld am Gyfathrebiad Mewn Tai Cymru fel Landlord. Enillodd y Gymdeithas yr ail wobr yng Nghategori Prif Ffrydio Cyfranogiad Tenantiaid  Roy Parry.

Roedd Diwrnod Tenantiaid 2009, sef digwyddiad llawn gweithgareddau lle gwahoddir holl denantiaid Cymdeithas Tai Clwyd ledled gogledd Cymru, yr orau eto. Daeth bron i 200 o bobl draw, gan gynnig, nid yn unig diwrnod llawn hwyl, ond cyfle hefyd iddynt siarad â th î m staff Cymdeithas Tai Clwyd. Yn ychwanegol, mae partneriaid y Gymdeithas hefyd ar gael yn ystod y dydd i gynnig cymorth neu i ymateb i unrhyw ymholiadau yngl ŷ n â ’u cartrefi neu gymunedau. Ychydig flynyddoedd yn ô l, cynhaliwyd y Diwrnod Tenantiaid mewn neuadd bentref fechan, gyda llond llaw o bobl yn bresennol. Diolch i fewnbwn y t î m Datblygu Cymunedol, trawsnewidiwyd y diwrnod, gan ei wneud yn ddigwyddiad llawer mwy apelgar i’r teulu cyfan, ac mae’n parhau i lewyrchu.

Ymunodd Mair Edwards, 35, sy’n wreiddiol o Lanelwy â Chymdeithas Tai Clwyd dros 3 blynedd yn ô l. Mae hi’n briod â Sion, ac mae ganddynt fab ifanc, Efan, 5. Cafodd Mair gryn sioc pan gyrhaeddodd y Seremoni Wobrwyo yng Nghaerdydd:

“Ro’n i wedi trefnu i fynd i Gaerdydd gyda’m cydweithwyr Ffion a Fred, y Swyddogion Datblygu Cymunedol, yn barod i dderbyn y Wobr Val Feld. Ces i’r dasg o s ô n am ein Diwrnod Tenantiaid yn y digwyddiad. Ces sioc anhygoel pan gyhoeddodd y ddwy, y noson cyn y Gwobrau, eu bod wedi fy enwebu ar gyfer Gwobr Gweithiwr Ysbrydoledig. Ro’n i’n hynod o falch. Yn ystod y seremoni wobrwyo, roeddwn i’n canolbwyntio ar fy araith am y Diwrnod Tenantiaid, felly ches i ddim cyfle i feddwl am fy enwebiad. Pan gyhoeddwyd fy enw fel enillydd y wobr, roedden ni gyd yn emosiynol iawn! Mae hi’n fraint fawr dod adref i Ddinbych gyda’r Wobr, ond y ffaith mai fy nghydweithwyr a’r tenantiaid a’m henwebodd i, sy’n dod â ’r balchder mwyaf i mi. Dwi’n gweithio gyda th î m anhygoel, pobl sy’n sicrhau bod troedio drws y swyddfa bob dydd yn bleser. Diolch o waelod calon iddynt am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth!”

Yn ô l Bob Jones, o Drefnant, Cynrychiolydd y Tenantiaid ar y Gweithgor Cyfranogiad Tenantiaid a ysgrifennodd air am Mair yn y ffurflen enwebu: “Mae gan Mair ffordd arbennig o annog pobl i ddod yn rhan o gynllun – yn enwedig pan nad ydyn nhw’n awyddus i ymuno. Rydych chi wastad yn gwybod beth sy’n digwydd a beth yw’r disgwyliadau arnoch chi. Mae ganddi sgiliau cyfathrebu gwych!”