Gwibdaith Tai Fforddiadwy
Ar y 23ain o Ebrill 2007, trefnwyd Gwibdaith Tai Fforddiadwy gan Gymdeithas Tai Clwyd ar gyfer ymgeiswyr etholiad Llywodraeth y Cynulliad.
Croesawyd y saith ymgeisydd a ddaeth i’r noson a oedd wedi ei threfnu ym Melin Brwcws, Dinbych gan Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr y Gymdeithas. “Ein prif nod ni heno yw i’ch gwneud chi’n fwy ymwybodol o’r pryder a’r pwysigrwydd cynyddol sydd ynghlwm â thai, ac am yr angen i wneud tai yn fwy o flaenoriaeth yn nhymor nesaf y Cynulliad . Mae hyn yn ogystal â chyflwyno maniffesto Cartrefi Cymunedol a rhoi cyflwyniad o waith Cymdeithas Tai Clwyd yn y cyd-destun yma”
Wedi croesawu’r ymgeiswyr fe aethpwyd â hwy ar daith bws i ymweld â phump o safleoedd lleol y Gymdeithas gyda Bryn Davies, Rheolwr Datblygu yn arwain y ffordd. Cawsant argraff dda iawn o waith y Gymdeithas.
Ar ôl y trip cafwyd cyflwyniadau gan; Bryn Davies, Rheolwr Datblygu (“Sicrhau Tai Fforddiadwy”), Gwenan Parry, Uwch Swyddog Lletya (“Opsiynau Perchnogaeth Cartrefi Cost Isel”) a Helen Cook, Hwylusydd Tai Gwledig ar ei rôl hi yn Siroedd Dinbych a Chonwy.
Derbyniwyd amryw o gwestiynau gan yr ymgeiswyr a arweiniodd at drafodaeth brwd ag adeiladol.
