Y Tai Fforddiadwy Cyntaf ar gael yn Wrecsam

Roedd merch o Wrecsam yn wên o glust i glust wrth iddi dderbyn yn swyddogol allweddi ei chartref cyntaf, diolch i bolisi tai fforddiadwy Cymdeithas Tai Clwyd a Chyngor Wrecsam.
Yn ei chartref newydd ym Mhentre Broughton, cyfarfu Elizabeth Williams â swyddogion o Gymdeithas Tai Clwyd, Cyngor Wrecsam, a Gordon Mytton Homes a chyflwynwyd blodau iddi gan Gymdeithas Tai Clwyd.
Cynigir yr eiddo hwn yn rhan o’r Cynllun Rhanberchnogaeth, ac fe’i dargedir yn uniongyrchol at bobl leol sydd â chysylltiad lleol â’r ardal. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod mewn gwir angen am dŷ ac yn methu fforddio eiddo ar y farchnad agored. Mae mecanweithiau mewn lle hefyd i sicrhau for yr eiddo yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.
Meddai Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd:
"Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn credu’n gryf fod darparu tai fforddiadwy o safon i bobl leol yn golygu llawer mwy na dim ond darparu lle i fyw. Ein nod yw parhau i gynnig cyfleoedd tebyg er mwyn i bobl leol gael mynediad i’r farchnad dai”.
Dywedodd y Cyngh. Rodney Skelland, Swyddog Arweiniol Materion Cymdeithasol Cyngor Wrecsam:
"Mae darparu modd i gynnig tai fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth gennym ac rwy’n hynod o falch bod cyfleoedd ar gael yn Wrecsam. Trwy sicrhau fod pobl leol yn cael eu cartrefu yn eu cymunedau eu hunain, sicrheir fod y cymunedau hynny yn parhau i ffynnu.”
