Agoriad Swyddogol Tai Fforddiadwy Maes Y Pandy, Llanuwchllyn
18 Mehefin 2007


Annie Jones, Aelod o Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd,
yn cyflwyno blodau i’r pedair tenant


Mae’n bleser gan Gyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Clwyd ddatgan fod y fenter yn Llanuwchllyn i ddatblygu pedwar tŷ fforddiadwy wedi ei gwblhau yn llwyddiannus.

Gwerthwyd y tir, ym Maes y Pandy Llanuwchllyn, i Gymdeithas Tai Clwyd gan Gyngor Gwynedd blwyddyn yn ôl am bris is na gwerth y farchnad er mwyn diwallu anghenion lleol am dai fforddiadwy.

Fel yr eglurodd Alwyn Llwyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd: “Mae’r fenter yma wedi bod yn enghraifft wych o’r hyn y gellid ei gyflawni trwy ymroddiad, cydlynu effeithiol a chydweithio agos rhwng y bobl leol, Cyngor Gwynedd, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd, Sylfeini, Cyngor Cymuned, Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Tai Clwyd a’r datblygwyr. “

Mae Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Clwyd wedi arwyddo Cytundeb Adran 106 gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, fel yr Awdurdod Cynllunio. Mae hyn yn sicrhau mai trigolion lleol fydd yn cael y flaenoriaeth pan mae’r tai yn cael eu rhentu neu eu gwerthu yn y dyfodol.

 

Elfyn Llwyd AS, Cyng Dafydd Iwan, Alwyn Llwyd. ...............Elfyn Llwyd AS ag Alwyn Llwyd gyda'r tenantiaid

 

Dywedodd Dafydd Iwan, Uwch Arweinydd Portffolio Datblygu Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu bod sicrhau cartrefi y gall pobl leol eu fforddio yn eu cynefin yn flaenoriaeth uchel i ni, a phleser yw gweld cynllun fel hwn yn cael ei wireddu.

“Mae pedwar teulu ifanc lleol bellach mewn cartrefi newydd, sydd wedi eu hadeiladu i safon uchel ac a fydd yn rhad i'w cynnal a'u gwresogi. Mae ein diolch yn fawr i Gymdeithas Tai Clwyd ac i'r holl bartneriaid eraill a wnaeth hyn yn bosib."

Mae pwyslais arbennig wedi ei roi ar yr ochr gynaliadwy gan sicrhau bod lefel uchel iawn o insiwleiddio yn yr unedau yn ogystal â phaneli solar, wedi ei ariannu gan Cymdeithas Tai Clwyd.

Fe fydd hyn yn golygu lleihad sylweddol yng nghostau cynhesu dŵr poeth i’r deiliaid - yn wir mae sawl elfen o’r gwaith adeiladu yn rhagori ar y safonau statudol.

 

Elen Thomas, Cadeirydd, yn rhoi'r goriad i Einir Jones.

 

Pensaer: Wynn Rogers ai Gwmni, Dinbych

Adeiladwr: James Carroll Cyf., Rhuthun