Tai Fforddiadwy i Bobl Leol Rhostyllen
16 Awst 2007

Bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddarparu 55 o gartrefi fforddiadwy newydd ym mhentref Rhostyllen, Wrecsam.

“Rydym yn hynod falch o gydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddarparu cymaint o gartrefi fforddiadwy i bobl leol ym mhentref Rhostyllen, sy’n enwog yn hanesyddol am ei waith glofaol” eglurodd Gwynne Jones, Cyfarwyddwr Tai, Cymdeithas Tai Clwyd. “Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynnal ymgynghoriad trylwyr gyda’r gymuned leol, i sicrhau bod y datblygiad hwn yn gaffaeliad i’r ardal.”

Eglurodd Gwynne Jones ymhellach: “Gyda phrisiau tai yn parhau i godi, mae hi’n hynod o anodd heddiw i bobl sy’n ennill incwm isel gychwyn ar yr ysgol eiddo. Bellach, mae’r lluosydd pris i incwm ar gyfartaledd dros 5 i 1. Mae Cymdeithas Tai Clwyd yn gobeithio y bydd y tai fforddiadwy hyn yn cynnig cyfle i bobl leol sicrhau cartref clyd ar gyfer eu teuluoedd.”

O’r 55 o dai newydd, bydd 18 ohonynt ar gael i’w rhentu, yn unol â’r rhent wythnosol fforddiadwy ar gyfartaledd yn Wrecsam, a bydd y 37 cartref sy’n weddill yn cael eu cynnig ar sail ecwiti a rennir/ar sail gostyngiad. Gosodir prisiau’n is na gwerth y farchnad agored ac fe’u cynigir yn y lle cyntaf i breswylwyr Esclusham sy’n cyfarfod meini prawf anghenion cartrefu Tai Clwyd.

Dywedodd Gwynne Jones, Cymdeithas Tai Clwyd: “Mae prisiau terfynol y tai angen eu cadarnhau’n derfynol, ond bydd y cynllun rhanberchnogaeth yn golygu bod modd i bobl leol brynu cyfran 50% o eiddo yn Rhostyllen am oddeutu £30,000 ar gyfer fflat stiwdio neu £45,000 am dŷ tair llofft.”

Mae tai fforddiadwy Cymdeithas Tai Clwyd yn rhan o ddatblygiad mwy gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef cynllun 220 o dai. Bydd y tai fforddiadwy yn cael eu gwasgaru ledled y safle ac yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau gofod a gymeradwyir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Cymdeithas Tai Clwyd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i sicrhau bod y tai newydd yn cael eu hadeiladu i safon uchel ac y bydd edrychiad unffurf i’r datblygiad a pharch yn cael ei roi i’r bensaernïaeth leol, gan greu amgylchedd diogel iach i bawb fydd yn byw yno.