Yswiriant Cynnwys

Ffederasiwn Tai Cenedlaethol
Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref
Os hoffech dderbyn pecyn gwybodaeth sy’n cynnwys ffurflen gais syml, neu os hoffech drefnu sicrwydd yswiriant nawr, ffoniwch:
0845 337 2463
neu gallwch dderbyn pecyn trwy alw i mewn i’ch swyddfa tai lleol
The National Housing Federation My Home Contents Insurance Scheme is a product name arranged and administered on behalf of the National Housing Federation by Jardine Lloyd Thompson Tenant Risks. A division of Jardine Lloyd Thompson Uk Ltd. Lloyd's Broker.
Authorised and Regulated by the Financial Services Authority. A member of the Jardine Lloyd Thompson Group. Registered Office: 6 Crutched Friars, London EC3N 2PH. Registered in England No. 00338645. VAT No. 244 2321 96.
The National Housing Federation is an Appointed Representative of Jardine Lloyd Thompson UK Ltd.

Rydym yn sylweddoli efallai mai yswiriant cynnwys yw’r peth diwethaf ar feddwl nifer o denantiaid, yn arbennig felly pan fo cymaint o gostau eraill. Fodd bynnag, dychmygwch fywyd lle gallwch gael premiwm yswiriant fforddiadwy y gellir talu amdano bob yn dipyn, gan roi tawelwch meddwl i chi fod sicrwydd yswiriant gennych ar gynnwys eich eiddo petai rhywbeth yn mynd o’i le, gan adael i chi ganolbwyntio ar y pethau sydd o bwys mewn bywyd.
Wel nid oes rhaid i chi ddychmygu mwyach!
10 rheswm dros ddewis cynllun yswiriant cynnwys Fy Nghartref
Esiamplau o Hawliau
Dioddefodd un teulu ddifrod i’w cartref ar ôl i beipen ddŵr fyrstio. Cafodd y beipen a’r difrod i’r plastr ei drwsio gan y landlord, ond heb yswiriant cynnwys eiddo, ni fyddai’r teulu wedi gallu newid y carpedi, dodrefn, eitemau personol na hyd yn oed addurno eu cartref.
Mewn achos arall, darganfu'r tenant fod cynnwys eu rhewgell wedi difetha oherwydd toriad yn y cyflenwad trydan. Yn ffodus, roedd gan y tenant sicrwydd yswiriant. (mae’r sicrwydd yn eithrio gweithred fwriadol gan gyflenwr nwy/trydan).
Faint fydd cost yr yswiriant?
Esiamplau o bremiymau:
Am swm yswiriedig o £10,000, lle bo’r ymgeisydd yn iau na 60 oed ac yn dewis talu gydag arian parod bob pythefnos, byddai’r premiwm yn £2.59.
I ymgeisydd dros 60 oed, byddai’r premiwm yn £2.32 bob pythefnos am swm yswiriedig o £10,000.
Gellir gwneud arbedion trwy dalu’r premiwm gydag arian parod yn fisol, yn fisol trwy ddebyd uniongyrchol neu yn flynyddol.
Nid yw’r yswiriant hwn yn rhoi sicrwydd yswiriant rhag pob dim all ddigwydd, mae telerau, amodau ac eithriadau yn gymwys, gallwch wneud cais i dderbyn copi o eiriad y polisi. Er mwyn sicrhau fod gennych sicrwydd yswiriant bob amser, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud taliadau cyson. Os na fyddwch yn talu eich premiwm yswiriant, fe all eich yswiriant gael ei ganslo.